2 Samuel 13:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi, Ai Amnon dy frawd a fu gyda thi? er hynny yn awr taw â sôn, fy chwaer: dy frawd di yw efe; na osod dy galon ar y peth hyn. Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Absalom, ei brawd, yn gofyn iddi, “Ydy'r brawd yna sydd gen ti, Amnon, wedi gwneud rhywbeth i ti? Paid dweud dim am y peth gan ei fod yn frawd i ti. Ond paid ti â poeni.” Yna aeth Tamar i aros yn nhŷ ei brawd Absalom, yn unig ac wedi torri ei chalon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd ei brawd Absalom iddi, "Ai dy frawd Amnon a fu gyda thi? Taw, yn awr, fy chwaer; dy frawd yw ef, paid phoeni'n ormodol am hyn." Ond arhosodd Tamar yn alarus yng nghartref ei brawd Absalom.