2 Samuel 13:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Absalom a orchmynnodd i'w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Absalom wrth ei weision, “Gwyliwch Amnon. Dw i eisiau i chi aros nes bydd e ychydig yn chwil. Wedyn pan fydda i'n dweud, lladdwch e! Peidiwch bod ofn. Fi sydd wedi dweud wrthoch chi i wneud hyn. Byddwch yn ddewr!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna huliodd Absalom wledd frenhinol, a gorchymyn i'w lanciau, "Edrychwch, pan fydd Amnon yn llawen gan win, a minnau'n dweud, 'Tarwch Amnon', yna lladdwch ef. Peidiwch ag ofni; onid wyf fi wedi gorchymyn i chwi? Byddwch yn wrol a dewr."