2 Samuel 13:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd un ohonynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedden nhw ar eu ffordd adre, roedd Dafydd wedi clywed si fod Absalom wedi lladd ei feibion e i gyd, a bod dim un ohonyn nhw'n dal yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oeddent ar y ffordd, daeth si i glyw Dafydd fod Absalom wedi lladd holl feibion y brenin, heb adael yr un ohonynt.