2 Samuel 13:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jonadab mab Simea, brawd Dafydd, a atebodd ac a ddywedodd, Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl lanciau, sef meibion y brenin; canys Amnon yn unig a fu farw: canys yr oedd ym mryd Absalom hynny, er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd) yn dweud, “Syr, paid meddwl fod dy feibion i gyd wedi ei lladd. Dim ond Amnon fydd wedi marw. Mae Absalom wedi bod yn cynllunio hyn ers i Amnon dreisio ei chwaer e, Tamar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai Jonadab mab Simea brawd Dafydd, "Peidied f'arglwydd meddwl eu bod wedi lladd y bechgyn, meibion y brenin, i gyd; Amnon yn unig sydd wedi marw. Y mae hyn wedi bod ym mwriad Absalom o'r dydd y treisiodd ei chwaer Tamar.