2 Samuel 13:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a gymerth badell, ac a'u tywalltodd hwynt ger ei fron ef: ond efe a wrthododd fwyta. Ac Amnon a ddywedodd, Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi. A phawb a aethant allan oddi wrtho ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan ddaeth â'r bwyd ato, dyma Amnon yn gwrthod bwyta. Yna dyma fe'n gorchymyn i'w weision “Pawb allan o ma!” a dyma nhw i gyd yn mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cymerodd y badell a'u gosod o'i flaen. Ond gwrthododd Amnon fwyta, a gorchmynnodd iddynt anfon pawb allan.