2 Samuel 14:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna hi a ddywedodd, Cofied, atolwg, y brenin dy ARGLWYDD DDUW, rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio, a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i. Ac efe a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ni syrth un o wallt pen dy fab di i lawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma hi'n gofyn, “Plîs wnei di addo i mi o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, na fydd y perthynas agosaf yn mynnu dial ar fy mab a tywallt mwy o waed eto?” “Ar fy llw,” meddai'r brenin, “fydd neb yn cyffwrdd blewyn o wallt ei ben!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd hithau, "Bydded i'r brenin ddwyn hyn i sylw'r ARGLWYDD dy Dduw, rhag i'r dialwr gwaed ddistrywio eto, a rhag iddynt ddifetha fy mab." A dywedodd y brenin, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt pen dy fab syrthio i'r llawr."