2 Samuel 14:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r wraig a ddywedodd, Paham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl DDUW? canys y mae'r brenin yn llefaru y gair hwn megis un beius, gan na ddug y brenin adref ei herwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma hi'n dweud, “Pam wyt ti wedi gwneud yr un math o beth yn erbyn pobl Dduw? Wrth roi'r dyfarniad yna i mi rwyt ti'n barnu dy hun yn euog. Dwyt ti ddim wedi gadael i dy fab sy'n alltud ddod yn ôl adre.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai'r wraig, "Pam yr wyt wedi cynllunio fel hyn yn erbyn pobl Dduw? Wrth wneud y dyfarniad hwn y mae'r brenin fel un sy'n euog ei hun, am nad yw'n galw'n l yr un a alltudiodd.