2 Samuel 14:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddiddan â'm harglwydd frenin am y peth hyn, oblegid i'r bobl fy nychrynu i: am hynny y dywedodd dy lawforwyn, Ymddiddanaf yn awr â'r brenin; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nawr, dw i wedi dod i siarad â'r brenin, fy meistr, am fod pobl yn codi ofn arna i. Ro'n i'n meddwl, ‘Os gwna i siarad â'r brenin falle y bydd e'n gwneud beth dw i'n ei ofyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, y rheswm y deuthum i ddweud y neges hon wrth f'arglwydd frenin oedd fod y bobl wedi codi ofn arnaf; a phenderfynodd dy lawforwyn, 'Fe siaradaf 'r brenin; efallai y bydd yn gwneud dymuniad ei forwyn.