2 Samuel 14:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd wrth y wraig, Na chela, atolwg, oddi wrthyf fi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti. A dywedodd y wraig, Llefared yn awr fy arglwydd frenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r brenin Dafydd yn ateb, “Dw i eisiau gwybod un peth. Paid cuddio dim oddi wrtho i.” “Gofyn, syr,” meddai'r wraig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd y brenin wrth y wraig, "Paid chelu oddi wrthyf un peth yr wyf am ei ofyn iti." Atebodd hithau, "Gofyn di, f'arglwydd frenin."