2 Samuel 14:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a'i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gan Absalom dri mab ac un ferch. Enw'r ferch oedd Tamar, ac roedd hi'n ferch arbennig o hardd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ganwyd i Absalom dri mab, ac un ferch, o'r enw Tamar; yr oedd honno'n ferch brydferth.