2 Samuel 14:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i'w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac efe a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dyma fe'n anfon neges at Joab i geisio'i gael i drefnu iddo gael gweld y brenin. Ond roedd Joab yn gwrthod mynd ato. Dyma fe'n anfon amdano eto, ond roedd Joab yn dal i wrthod mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna anfonodd am Joab, er mwyn iddo'i anfon at y brenin, ond nid oedd yn fodlon dod. Anfonodd eilwaith, ond yr oedd yn gwrthod dod.