2 Samuel 14:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd, Tyred yma, fel y'th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Absalom yn ateb, “Edrych, gwnes i anfon neges atat ti am fy mod eisiau i ti fynd at y brenin, a gofyn iddo pam wnaeth e ddod â fi yn ôl o Geshwr os nad oedd e eisiau fy ngweld i. Byddai wedi bod yn well i mi aros yno! Nawr, dw i eisiau gweld y brenin. Os ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le, gad iddo fy lladd i!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Absalom wrth Joab, "Edrych, fe anfonais atat a dweud, 'Tyrd yma imi dy anfon di at y brenin i ofyn pam y deuthum yn l o Gesur; byddai'n well arnaf pe bawn wedi aros yno.' Yn awr yr wyf am weld wyneb y brenin, ac os oes camwedd ynof, lladded fi."