2 Samuel 14:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a drawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i'm gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A nawr mae aelodau'r clan i gyd wedi troi yn fy erbyn i, ac yn mynnu, ‘Rho dy fab i ni. Rhaid iddo farw am lofruddio ei frawd.’ Ond fe ydy'r etifedd. Os gwnân nhw hynny, bydd y fflam olaf sydd gen i wedi diffodd! Fydd yna neb ar ôl i gadw enw'r gŵr yn fyw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn awr y mae'r holl dylwyth wedi codi yn erbyn dy lawforwyn, a dweud, 'Rho inni'r hwn a laddodd ei frawd, er mwyn inni ei ladd am fywyd y brawd a lofruddiodd; a difethwn yr etifedd hefyd.' Felly byddant yn diffodd y marworyn sydd ar l gennyf, fel na adewir i'm gu373?r nac enw nac epil ar wyneb daear."