2 Samuel 15:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Absalom a anfonodd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorwr Dafydd, o'i ddinas, o Gilo, tra oedd efe yn offrymu aberthau. A'r cydfradwriaeth oedd gryf; a'r bobl oedd yn amlhau gydag Absalom yn wastadol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Absalom yn cael Achitoffel, swyddog strategaeth Dafydd, i ddod ato o Gilo (y dre lle roedd e'n byw) i gyflwyno aberthau gydag e. Roedd y cynllwyn yn cryfhau, a nifer y bobl oedd o blaid Absalom yn cynyddu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd Absalom hefyd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorydd Dafydd, i ddod o'i dref, Gilo, i fod gydag ef wrth offrymu'r ebyrth. Yr oedd y cynllwyn yn cynyddu, a'r bobl oedd o blaid Absalom yn dal i amlhau.