2 Samuel 15:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Dafydd wrth ei holl weision y rhai oedd gydag ef yn Jerwsalem, Cyfodwch, a ffown; canys ni ddihangwn ni gan Absalom: brysiwch i fyned; rhag iddo ef frysio a'n dala ni, a dwyn drwg arnom ni, a tharo'r ddinas â min y cleddyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Dafydd yn dweud wrth ei swyddogion yn Jerwsalem, “Rhaid i ni ffoi, neu wnawn ni ddim dianc oddi wrth Absalom. Dewch! Brysiwch i ni adael, rhag iddo'n dal ni a lladd pawb yn y ddinas!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd Dafydd wrth ei holl weision oedd gydag ef yn Jerwsalem, "Codwch, inni gael ffoi; onid e, ni fydd modd inni ddianc rhag Absalom; brysiwch oddi yma rhag iddo ef ymosod yn sydyn arnom a pheri niwed inni, a tharo'r ddinas 'r cleddyf."