2 Samuel 15:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Absalom a gyfodai yn fore, ac a safai gerllaw ffordd y porth: ac Absalom a alwai ato bob gŵr yr oedd iddo fater i ddyfod at y brenin am farn, ac a ddywedai, O ba ddinas yr ydwyt ti? Yntau a ddywedai, O un o lwythau Israel y mae dy was.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddai'n codi'n fore a sefyll ar ochr y ffordd wrth giât y ddinas. Pan oedd unrhyw un yn dod heibio gydag achos cyfreithiol i'w setlo gan y brenin, byddai Absalom yn ei alw draw. Byddai'n gofyn iddo, “Un o ble wyt ti?” Os oedd hwnnw'n dweud ei fod yn perthyn i un o lwythau Israel,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Codai'n fore, a sefyll ar ochr y ffordd at borth y ddinas, a phan fyddai unrhyw un yn dod ag achos at y brenin am ddedfryd, byddai Absalom yn ei alw ato ac yn holi, "O ba dref yr wyt ti?" A byddai hwnnw'n ateb, "O un o lwythau Israel y mae dy was."