2 Samuel 15:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ittai a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw fy arglwydd frenin, yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo, pa un bynnag ai mewn angau ai mewn einioes, yno y bydd dy was hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Itai yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a'm meistr y brenin yn fyw, bydda i'n mynd ble bynnag fyddi di'n mynd — hyd yn oed os fydd hynny'n golygu marw gyda ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Itai a dweud wrth y brenin, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, f'arglwydd frenin, ple bynnag yr f'arglwydd frenin, i farw neu i fyw, yno'n sicr y bydd dy was hefyd."