2 Samuel 15:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele Sadoc, a'r holl Lefiaid oedd gydag ef, yn dwyn arch cyfamod DUW; a hwy a osodasant i lawr arch DUW: ac Abiathar a aeth i fyny, nes darfod i'r holl bobl ddyfod allan o'r ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yno, a'r Lefiaid yn cario Arch Ymrwymiad Duw. Dyma nhw'n gosod yr Arch i lawr, a wnaethon nhw ddim ei chodi eto nes oedd y bobl i gyd wedi gadael y ddinas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Sadoc yno hefyd, a'r holl Lefiaid oedd gydag ef yn cario arch cyfamod Duw. Wedi iddynt osod arch Duw i lawr, bu Abiathar yn offrymu nes i'r bobl i gyd ymadael 'r ddinas.