2 Samuel 15:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad, Onid gweledydd ydwyt ti? dychwel i'r ddinas mewn heddwch, a'th ddau fab gyda thi, sef Ahimaas dy fab, a Jonathan mab Abiathar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Sadoc yr offeiriad, “Wyt ti'n deall y sefyllfa? Dos yn ôl i'r ddinas yn dawel fach, ti ac Abiathar a'ch meibion, Achimaats, dy fab di, a Jonathan, mab Abiathar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hefyd dywedodd y brenin wrth Sadoc yr offeiriad, "Edrych, fe elli di ac Abiathar ddychwelyd yn ddiogel i'r ddinas, a'ch dau fab gyda chwi, Ahimaas dy fab di a Jonathan, mab Abiathar.