2 Samuel 15:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo, a'i ben wedi ei orchuddio, ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth. A'r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fyny, gan fyned ac wylo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Dafydd yn ei flaen i fyny Mynydd yr Olewydd, yn crïo wrth fynd. Roedd yn cuddio'i ben a doedd dim am ei draed. Ac roedd pawb arall oedd gydag e wedi gorchuddio'u pennau ac yn crïo hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dringodd Dafydd lethr Mynydd yr Olewydd dan wylo a chuddio'i ben a cherdded yn droednoeth. Yr oedd yr holl bobl oedd gydag ef hefyd yn dringo gan guddio'u pennau ac wylo.