2 Samuel 17:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr un grymus, yr hwn y mae ei galon fel calon llew, a lwfrha: canys gŵyr holl Israel mai glew yw dy dad di, ac mai gwŷr grymus yw y rhai sydd gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd hyd yn oed y milwyr mwyaf dewr — y rhai sy'n gryfion fel llewod — yn digalonni. Mae pobl Israel i gyd yn gwybod fod dy dad wedi hen arfer rhyfela, a bod y dynion sydd gydag e yn filwyr profiadol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe fydd ysbryd y cryfaf, yr un chalon fel llew, yn darfod yn llwyr, oherwydd y mae Israel gyfan yn gwybod mai milwr dewr yw dy dad, a bod dynion grymus gydag ef.