2 Samuel 17:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y deuwn arno ef i un o'r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo, ac a ruthrwn arno ef fel y syrth y gwlith ar y ddaear: ac ni adewir dim ohono ef, nac un chwaith o'r holl wŷr sydd gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn, ble bynnag mae e, byddwn ni'n disgyn arno fel gwlith ar y ddaear. Fydd e na neb arall sydd gydag e yn cael eu gadael yn fyw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe ddown ar ei warthaf, ym mha le bynnag y ceir ef; disgynnwn arno fel gwlith yn syrthio ar y ddaear, ac ni adewir dim un ohonynt, ef na'r dynion sydd gydag ef.