2 Samuel 17:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Absalom, a holl wŷr Israel, Gwell yw cyngor Husai yr Arciad na chyngor Ahitoffel. Canys yr ARGLWYDD a ordeiniasai ddiddymu cyngor da Ahitoffel, fel y dygai yr ARGLWYDD ddrwg ar Absalom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Absalom ac arweinwyr Israel yn ymateb, “Mae cyngor Chwshai yn well na chyngor Achitoffel.” A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD ddrysu cyngor da Achitoffel er mwyn achosi helynt i Absalom.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Absalom a'r holl Israeliaid, "Y mae cyngor Husai yr Arciad yn well na chyngor Ahitoffel." Yr ARGLWYDD oedd wedi peri drysu cyngor da Ahitoffel, er mwyn i'r ARGLWYDD ddwyn dinistr ar Absalom.