2 Samuel 17:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Husai wrth Sadoc ac wrth Abiathar yr offeiriaid, Fel hyn ac fel hyn y cynghorodd Ahitoffel i Absalom ac i henuriaid Israel: ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Chwshai yn mynd i ddweud wrth Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid beth oedd cyngor Achitoffel i Absalom, a beth oedd e ei hun wedi ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Husai wrth yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar, "Fel hyn ac fel hyn yr oedd cyngor Ahitoffel i Absalom a henuriaid Israel; ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau.