2 Samuel 17:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan, a mynegwch i Dafydd, gan ddywedyd, Nac aros dros nos yng ngwastadedd yr anialwch, ond gan fyned dos; rhag difa'r brenin a'r holl bobl sydd gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly anfonwch neges ar frys at Dafydd i ddweud wrtho am beidio aros dros nos wrth rydau'r anialwch,” meddai. “Dwedwch wrtho am groesi'r Iorddonen yn syth, rhag ofn iddo fe a phawb sydd gydag e gael eu lladd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonwch yn awr ar frys a dywedwch wrth Ddafydd, 'Paid ag aros y nos wrth rydau'r anialwch, ond dos drosodd ar unwaith, rhag i'r brenin a'r holl bobl sydd gydag ef gael eu difa.'"