2 Samuel 17:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig, ac yn wan ei ddwylo, ac a'i brawychaf ef: a ffy yr holl bobl sydd gydag ef; a mi a drawaf y brenin yn unig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd e wedi blino'n lân ac yn wan erbyn i mi ddal i fyny ag e. Bydda i'n ei ddychryn, a bydd ei fyddin yn dianc mewn panig. Dim ond y brenin wna i ei ladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dof ar ei warthaf pan fydd yn lluddedig a diymadferth, a chodaf arswyd arno, nes bod pawb sydd gydag ef yn ffoi; ni laddaf neb ond y brenin,