2 Samuel 17:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth gweision Absalom at y wraig i'r tŷ, hwy a ddywedasant, Pa le y mae Ahimaas a Jonathan? A'r wraig a ddywedodd wrthynt, Hwy a aethant dros yr aber ddwfr. A phan geisiasant, ac nas cawsant hwynt, yna y dychwelasant i Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ dyma nhw'n gofyn i'r wraig, “Ble mae Achimaats a Jonathan?” A dyma hi'n ateb, “Maen nhw wedi croesi'r nant.” Aeth y dynion i chwilio amdanyn nhw, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth gweision Absalom at y tu375? a gofyn i'r wraig, "Ple mae Ahimaas a Jonathan?" dywedodd hithau, "Y maent wedi mynd dros y ffrwd ddu373?r." Ond er iddynt chwilio, ni chawsant mohonynt, ac aethant yn l i Jerwsalem.