2 Samuel 19:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedwch hefyd wrth Amasa, Onid fy asgwrn i a'm cnawd wyt ti? Fel hyn y gwnelo DUW i mi, ac fel hyn y chwanego, onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Joab byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hefyd rhowch y neges yma i Amasa: ‘Rwyt ti'n perthyn yn agos i mi. Dw i'n addo i ti o flaen Duw mai ti fydd pennaeth y fyddin yn lle Joab o hyn ymlaen.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedwch wrth Amasa, 'Onid fy asgwrn i a'm cnawd wyt tithau? Fel hyn y gwnelo Duw imi, a rhagor os nad ti o hyn ymlaen fydd capten y llu drosof yn lle Joab.'"