2 Samuel 19:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Meffiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i waered i gyfarfod â'r brenin; ac ni olchasai efe ei draed, ac ni thorasai ei farf, ac ni olchasai ei ddillad, er y dydd yr aethai'r brenin hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Meffibosheth, ŵyr Saul, wedi dod i gyfarfod y brenin hefyd. Doedd e ddim wedi trin ei draed, trimio'i farf, na golchi ei ddillad o'r diwrnod wnaeth y brenin adael Jerwsalem nes iddo gyrraedd yn ôl yn saff.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hefyd fe ddaeth Meffiboseth, u373?yr Saul, i lawr i gyfarfod y brenin. Nid oedd wedi trin ei draed na'i farf, na golchi ei ddillad o'r diwrnod yr ymadawodd y brenin hyd y dydd y dychwelodd yn ddiogel.