2 Samuel 19:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a ddywedodd wrtho, I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach? dywedais, Ti a Siba rhennwch y tir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r brenin yn ateb, “Does dim angen dweud dim mwy. Dw i wedi penderfynu fod y tir i gael ei rannu rhyngot ti a Siba.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd y brenin wrtho, "Pam y dywedi ragor? Penderfynais dy fod ti a Siba i rannu'r ystad."