2 Samuel 19:35 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytâf, neu yr hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherddoresau? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd frenin?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n wyth deg oed, ac yn dda i ddim i neb. Dw i ddim yn cael yr un blas ar fwyd a diod ag oeddwn i. Alla i ddim clywed dynion a merched yn canu. Pam ddylwn i fod yn fwrn ar fy meistr, y brenin?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn bedwar ugain oed erbyn hyn; ni allaf ddweud y gwahaniaeth rhwng da a drwg; nid wyf yn medru blasu'r hyn yr wyf yn ei fwyta na'i yfed, na chlywed erbyn hyn leisiau cantorion a chantoresau. Pam y byddwn yn faich pellach ar f'arglwydd frenin?