2 Samuel 19:37 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gad, atolwg, i'th was ddychwelyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel y'm cladder ym meddrod fy nhad a'm mam: ac wele, Chimham dy was, efe a â drosodd gyda'm harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Plîs, gad i mi fynd adre i farw yn y dref lle mae dad a mam wedi cael eu claddu. Ond mae dy was Cimham yma, gad iddo fe fynd gyda ti yn fy lle i, syr. Cei roi beth bynnag wyt eisiau iddo fe.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gad i'th was ddychwelyd, fel y caf farw yn fy ninas fy hun, gerllaw bedd fy nhad a'm mam. Ond dyma dy was Cimham, gad iddo ef groesi gyda'm harglwydd frenin, a gwna iddo ef fel y gweli'n dda."