2 Samuel 19:40 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth y brenin drosodd i Gilgal aeth Cimham gydag e. Roedd milwyr Jwda i gyd a hanner rhai Israel wedi dod i hebrwng y brenin dros yr afon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan groesodd y brenin i Gilgal, aeth Cimham drosodd gydag ef; yr oedd holl filwyr Jwda a hanner milwyr Israel yn ei hebrwng drosodd.