2 Samuel 19:41 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a'i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dechreuodd dynion Israel i gyd fynd at y brenin, yn gofyn iddo, “Pam mae'n brodyr ni, pobl Jwda, wedi sleifio'r brenin a'i deulu ar draws yr afon gyda'i filwyr i gyd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth yr holl Israeliaid a dweud wrth y brenin, "Pam y mae'n brodyr, pobl Jwda, wedi dwyn y brenin, a dod ag ef a'i deulu dros yr Iorddonen, a holl filwyr Dafydd gydag ef?"