2 Samuel 19:43 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gan hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma ddynion Israel yn ateb yn ôl, “Mae gynnon ni ddeg gwaith cymaint o hawl ar y brenin na chi! Pam ydych chi'n ein bychanu ni fel yma? Ni oedd y rhai cyntaf i awgrymu dod â'r brenin yn ôl!” Ond roedd dynion Jwda'n dweud pethau tipyn mwy cas na dynion Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ateb gwu375?r Israel i wu375?r Jwda ar hyn oedd: "Y mae gennym ni ddengwaith mwy o hawl ar y brenin na chwi, ac yr ydym ni yn hu375?n na chwi hefyd. Pam yr ydych yn ein bychanu ni? Onid ni oedd y cyntaf i sn am ddod 'n brenin yn l?" Ond dadleuodd gwu375?r Jwda yn ffyrnicach na gwu375?r Israel.