2 Samuel 19:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joab a ddaeth i mewn i'r tŷ at y brenin, ac a ddywedodd, Gwaradwyddaist heddiw wynebau dy holl weision, y rhai a amddiffynasant dy einioes di heddiw, ac einioes dy feibion a'th ferched, ac einioes dy wragedd, ac einioes dy ordderchwragedd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Joab yn mynd i'r tŷ at y brenin, a dweud, “Mae dy weision wedi achub dy fywyd di a bywydau dy blant, dy wragedd a dy gariadon. A dyma ti, heddiw, yn codi cywilydd arnyn nhw i gyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth Joab i'r ystafell at y brenin a dweud, "Yr wyt ti heddiw yn gwaradwyddo dy ddilynwyr i gyd, sef y rhai sydd wedi achub dy fywyd di heddiw, a bywydau dy feibion a'th ferched, a bywydau dy wragedd a'th ordderchwragedd.