2 Samuel 19:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyfod yn awr gan hynny, cerdda allan, a dywed yn deg wrth dy weision: canys yr wyf fi yn tyngu i'r ARGLWYDD, os ti nid ei allan, nad erys neb gyda thi y nos hon; a gwaeth fydd hyn i ti na'r holl ddrwg a ddaeth i'th erbyn di o'th febyd hyd yr awr hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nawr, dos allan yna i longyfarch ac annog dy weision. Dw i'n addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, os na ei di allan fydd gen ti neb ar dy ochr di erbyn heno. Bydd pethau'n waeth arnat ti na fuon nhw erioed o'r blaen!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly cod, dos allan a dywed air o galondid wrth dy ddilynwyr, neu, onid ei di allan atynt, tyngaf i'r ARGLWYDD, erbyn heno ni fydd gennyt yr un dyn ar l; a byddi mewn gwaeth trybini na dim sydd wedi digwydd iti o'th febyd hyd yn awr."