2 Samuel 19:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth. A mynegwyd i'r holl bobl, gan ddywedyd, Wele y brenin yn eistedd yn y porth. A'r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin: canys Israel a ffoesai bob un i'w babell.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r brenin yn codi, a mynd allan i eistedd wrth giât y ddinas. Pan ddywedwyd wrth y bobl, dyma nhw i gyd yn mynd yno i sefyll o'i flaen. Roedd milwyr Israel (oedd wedi cefnogi Absalom) i gyd wedi dianc am adre.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar hynny cododd y brenin ac eistedd yn y porth; anfonwyd neges at yr holl fyddin fod y brenin yn eistedd yn y porth, a daeth y fyddin gyfan ynghyd gerbron y brenin. Yr oedd yr Israeliaid i gyd wedi ffoi i'w cartrefi.