2 Samuel 19:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Y brenin a'n gwaredodd ni o law ein gelynion, ac efe a'n gwaredodd ni o law y Philistiaid; ac yn awr efe a ffodd o'r wlad rhag Absalom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yna lot fawr o drafod a dadlau drwy lwythau Israel i gyd. Roedd pobl yn dweud, “Y brenin wnaeth ein hachub ni o afael ein gelynion. Achubodd ni o afael y Philistiaid, ond mae e wedi ffoi o'r wlad o achos Absalom!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dechreuodd pawb trwy holl lwythau Israel ddadlau a dweud, "Achubodd y brenin ni o afael ein gelynion, ac yn arbennig fe'n gwaredodd ni rhag y Philistiaid. Yn awr y mae wedi ffoi o'r wlad o achos Absalom.