2 Samuel 2:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A af fi i fyny i'r un o ddinasoedd Jwda? A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba le yr af i fyny? Dywedodd yntau, I Hebron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD a gofyn, “Ddylwn i symud i fyw i un o drefi Jwda?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ie, dos!”. “I ba un?” meddai Dafydd. “I Hebron,” oedd yr ateb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi hyn ymofynnodd Dafydd 'r ARGLWYDD a gofyn, "A af i fyny i un o drefi Jwda?" Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Dos." Gofynnodd Dafydd, "I ba un?" Atebodd yr ARGLWYDD, "I Hebron."