2 Samuel 2:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Joab hefyd mab Serfia, a gweision Dafydd, a aethant allan, ac a gyfarfuant ynghyd wrth lyn Gibeon: a hwy a eisteddasant wrth y llyn, rhai o'r naill du, a'r lleill wrth y llyn o'r tu arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Joab, mab Serwia, a swyddogion milwrol Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw. Dyma'r ddau grŵp yn aros, un bob ochr i'r pwll yn Gibeon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Joab fab Serfia a dilynwyr Dafydd allan hefyd; a chyfarfu'r ddau wrth bwll Gibeon, gyda'r naill fintai ar un ochr i'r pwll, a'r llall yr ochr arall.