2 Samuel 2:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Abner yn gweiddi draw at Joab, “Gad i rai o'r milwyr ifanc ymladd yn erbyn ei gilydd o'n blaenau ni.” A dyma Joab yn cytuno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Abner wrth Joab, "Gad i'r llanciau ddod a chynnal gornest o'n blaenau." Cytunodd Joab.