2 Samuel 2:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond efe a wrthododd ymado. Am hynny Abner a'i trawodd ef â bôn y waywffon dan y bumed ais, a'r waywffon a aeth allan o'r tu cefn iddo; ac efe a syrthiodd yno, ac a fu farw yn ei le: a phawb a'r oedd yn dyfod i'r lle y syrthiasai Asahel ynddo, ac y buasai farw, a safasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd Asahel yn gwrthod stopio. Felly dyma Abner yn ei daro yn ei fol â bôn ei waywffon, nes iddi ddod allan trwy'i gefn. Syrthiodd Asahel yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb aeth heibio lle roedd Asahel wedi marw yn sefyll yn syn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gwrthododd droi draw, a thrawodd Abner ef yn ei fol bn ei waywffon, nes iddi ddod allan trwy ei gefn. Syrthiodd i lawr, ac yno y bu farw. Ac wrth ddod heibio'r fan y bu i Asahel syrthio a marw, safai pawb yn ei unfan.