2 Samuel 2:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Joab, Fel mai byw DUW, oni buasai yr hyn a ddywedaist, diau yna y bore yr aethai y bobl i fyny, bob un oddi ar ôl ei frawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Joab yn ateb, “Petaet ti heb ddweud hyn, mor sicr â bod Duw yn fyw, byddai'r dynion wedi dal ati i fynd ar eich ôl chi drwy'r nos!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Joab, "Cyn wired bod Duw yn fyw, oni bai dy fod wedi siarad, ni fyddai'r milwyr wedi peidio ag ymlid eu perthnasau tan y bore."