2 Samuel 20:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yno y digwyddodd bod gŵr i'r fall, a'i enw Seba, mab Bichri, gŵr o Jemini; ac efe a utganodd mewn utgorn, ac a ddywedodd, Nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd, nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse: pawb i'w babell, O Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yna ddyn o lwyth Benjamin yno ar y pryd — Sheba fab Bichri, dyn drwg oedd yn codi twrw. Dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd a gweiddi, “Does gynnon ni ddim i'w wneud â Dafydd! Dŷn ni ddim yn perthyn i deulu Jesse! Yn ôl adre bobl Israel!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn digwydd bod yno ddihiryn o'r enw Seba fab Bichri, o lwyth Benjamin. Canodd ef yr utgorn a chyhoeddi, "Nid oes i ni gyfran yn Nafydd, nac etifeddiaeth ym mab Jesse. Pob un i'w babell, O Israel!"