2 Samuel 20:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond ni ddaliodd Amasa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab: felly efe a'i trawodd ef ag ef dan y bumed ais, ac a ollyngodd ei berfedd ef i'r llawr, ac nid aildrawodd ef: ac efe a fu farw. Felly Joab ac Abisai ei frawd a ganlynodd ar ôl Seba mab Bichri.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd Amasa ddim wedi sylwi ar y dagr oedd yn llaw chwith Joab, a dyma Joab yn ei drywanu yn ei fol nes i'w berfedd dywallt ar lawr. Doedd dim rhaid ei drywanu yr ail waith, roedd yr ergyd gyntaf wedi ei ladd. Yna dyma Joab a'i frawd Abishai yn mynd yn ei blaenau ar ôl Sheba fab Bichri.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oedd Amasa wedi sylwi ar y cleddyf oedd yn llaw Joab, a thrawodd Joab ef yn ei fol nes i'w ymysgaroedd ddisgyn i'r llawr, a bu farw heb ail ergyd. Yna aeth Joab a'i frawd Abisai yn eu blaen ar l Seba fab Bichri.