2 Samuel 20:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y daethant hwy, ac a warchaeasant arno ef yn Abel Beth‐maacha, ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas, yr hon a safodd ar y rhagfur: a'r holl bobl y rhai oedd gyda Joab oedd yn curo'r mur, i'w fwrw i lawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Joab a'i ddynion yn cyrraedd yno, a gwarchae ar Abel-beth-maacha. Roedden nhw wedi codi ramp yn erbyn wal y dref. Wrth i filwyr Joab geisio torri trwy'r wal a'i chwalu,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gyrhaeddodd holl fyddin Joab, rhoesant warchae arno yn Abel-beth-maacha a chodi gwarchglawdd yn erbyn y ddinas, a thurio i ddymchwel y mur.