2 Samuel 20:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna gwraig ddoeth o'r ddinas a lefodd, Clywch, clywch: dywedwch, atolwg, wrth Joab, Nesâ hyd yma, fel yr ymddiddanwyf â thi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma ryw wraig ddoeth o'r dref yn gweiddi arnyn nhw, “Gwrandwch! Gwrandwch! Dwedwch wrth Joab am ddod yma. Mae gen i rywbeth i'w ddweud wrtho.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna safodd gwraig ddoeth ar yr amddiffynfa a gweiddi o'r ddinas, "Gwrandewch, gwrandewch, a dywedwch wrth Joab am iddo ddod yma i mi gael siarad ag ef."