2 Samuel 20:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan nesaodd efe ati hi, y wraig a ddywedodd, Ai ti yw Joab? Dywedodd yntau, Ie, myfi. A hi a ddywedodd wrtho ef, Gwrando eiriau dy lawforwyn. Dywedodd yntau, Yr ydwyf yn gwrando.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth Joab ati, dyma'r wraig yn gofyn iddo, “Ai ti ydy Joab?” “Ie,” meddai. A dyma hi'n dweud, “Gwranda, mae gan dy forwyn awgrym.” “Dw i'n gwrando,” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth yntau ati, a gofynnodd y wraig, "Ai ti yw Joab?" "Ie," meddai yntau. Yna dywedodd hi wrtho, "Gwrando ar eiriau dy lawforwyn," ac atebodd yntau, "Rwy'n gwrando."