2 Samuel 20:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi wyf un o heddychol ffyddloniaid Israel: yr wyt ti yn ceisio difetha dinas a mam yn Israel: paham y difethi di etifeddiaeth yr ARGLWYDD?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n un o'r rhai ffyddlon sydd eisiau gweld heddwch yn Israel. Ond rwyt ti yma'n ceisio dinistrio un o drefi pwysica'r wlad. Pam wyt ti eisiau difetha tref sy'n perthyn i'r ARGLWYDD?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Un o rai heddychol a ffyddlon Israel wyf fi, ond yr wyt ti'n ceisio distrywio dinas sy'n fam yn Israel. Pam yr wyt am ddifetha etifeddiaeth yr ARGLWYDD?"